Mae Heddlu De Cymru’n dal i apelio am wybodaeth ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod yn Canary Wharf, Bae Caerdydd, ddydd Mercher.

Mae’r ddynes bellach wedi cael ei henwi fel Christine James.

Mae dyn 66 oed, a gafodd ei arestio nos Fercher ar amheuaeth o lofruddio, yn dal i gael ei holi, ac yn gynharach heddiw cafodd yr heddlu ganiatâd Llys Ynadon Caerdydd i’w gadw yn y ddalfa am 36 awr arall.

Meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Ceri Hughes o Heddlu De Cymru:

“Mae teulu Mrs James yn cael eu cysuro gan swyddog cyswllt teuluol ac mae ymchwiliad i lofruddiaeth yn mynd ymlaen i ddarganfod yr amgylchiadau a arweiniodd at ei marwolaeth.

“Er bod un dyn wedi cael ei arestio ac yn dal yn y ddalfa, rydym yn dal i apelio’n daer am wybodaeth ac ar i dystion ddod ymlaen.”

Roedd Christine James wedi symud o’r Bontfaen i Canary Wharf ym mis Tachwedd y llynedd, a’r tro olaf iddi gael ei gweld oedd ddydd Gwener diwethaf, 26 Chwefror, yn dychwelyd i’w fflat.

Roedd disgwyl iddi deithio i faes awyr Gatwick ddydd Sadwrn i hedfan i Florida, ond dechreuodd perthnasau ofidio amdani pan ddaeth yn amlwg na chyrhaeddodd Lundain.