Taflegryn
Mae Gogledd Corea wedi tanio taflegrau i’r môr oriau’n unig ar ôl i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gyhoeddi sancsiynau llym yn erbyn Pyongyang.

Pleidleisiodd y Cyngor Diogelwch yn unfrydol dros gyflwyno’r sancsiynau wedi i Ogledd Corea lansio roced brawf gyda’r potensial i gario arfau niwclear yn ddiweddar.

Y sancsiynau yw’r mwyaf llym yn erbyn y wlad ers 20 mlynedd, ac mae’n golygu arolygiadau gorfodol o unrhyw gargo sy’n gadael ac yn mynd i mewn i Ogledd Corea.

Yn ogystal, mae’r wlad wedi ei wahardd rhag mewnforio unrhyw arfau.

Dywedodd llefarydd ar ran Gweinidogaeth Amddiffyn De Corea fod y taflegrau wedi cael eu tanio o dref arfordirol Wonsan.