Mae elusen yng Nghymru wedi cael grant gwerth £10 miliwn i wella cyfleoedd pobol ifanc sydd ag anableddau neu anawsterau dysgu i gael gwaith.

Bydd Anableddau Dysgu Cymru’n defnyddio £9,999,289 dros bum mlynedd i helpu 1,000 o bobol ifanc rhwng 16 a 25 oed i gael lleoliad gwaith â thâl a fydd yn para rhwng 6 a 12 mis.

Y bwriad yw rhoi’r cyfle i fwy o bobol ifanc ag anableddau dysgu i gael gwaith parhaol a gwella’u sgiliau cyflogadwyedd.

Bydd y rhaglen, sy’n cael ei galw’n Ar y Blaen 2, hefyd yn helpu pobol ifanc sy’n byw ag awtistiaeth.

 

Arian o gyfrifon banc segur

Fydd y rhaglen ddim yn cael ei hariannu gan y Loteri, ond yn hytrach, gan arian sydd wedi bod yn segur mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu ledled y DU, ers 15 mlynedd neu fwy.

Mae’r ffordd o wario’r arian yng Nghymru wedi cael ei phennu gan Gyfarwyddiadau Polisi Llywodraeth Cymru, sydd wedi’u rhoi i’r Gronfa Loteri Fawr.

Bydd Anableddau Dysgu Cymru’n cydweithio â mudiadau gwahanol yng Nghymru i gyflwyno’r prosiect, gan gynnwys: Agoriad, Elite, Pobol yn Gyntaf Cymru Gyfan, Prosiect SEARCH, a Phrifysgol Caerdydd.

Un sydd wedi elwa o leoliadau gwaith yn y gorffennol yw Ashford Richards, 19, o Ferthyr Tudful, sydd â chlefyd Syndrom Down.

Dywed ei fod am fod yn actor ar ôl iddo adael yr ysgol, a bod cael profiad gwaith wedi’i helpu i sylweddoli hynny.

Heriau i bobol ifanc ag anableddau dysgu

Yn ôl Anableddau Dysgu Cymru, mae hi wedi bod yn anodd i bobol ifanc ag anableddau dysgu gael mynediad i fentrau blaenorol sy’n helpu pobol ifanc gael gwaith.

Bydd y rhaglen, sydd wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer y bobol ifanc hyn yn sicrhau bod ganddyn nhw gyfleoedd gwell i ddod o hyd i waith, meddai’r elusen.

“Mae Anableddau Dysgu Cymru wrth eu boddau â bod yn arwain ar brosiect a fydd yn newid y ffordd  y mae pobl ifanc ag anableddau/anawsterau dysgu yn cyfrannu at y gweithlu yng Nghymru,” meddai Zoe Richards, Rheolwr Pobl Ifanc a Gofalwyr gydag Anableddau Dysgu Cymru.

“Bydd y rhaglen hon yn galluogi ni i ddarparu tystiolaeth bod rhaglen cefnogi cyflogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn creu canlyniadau cyflogaeth hir dymor i’r bobl ifanc rydym yn eu cynrychioli.

“Rydym am sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn weladwy yng ngweithlu Cymru, ac y byddant yn gweithredu fel modelau rôl ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf o bobl ifanc.”

Cyhoeddi gwasanaeth awtistiaeth newydd

Wrth gyhoeddi gwasanaeth awtistiaeth newydd i Gymru, dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, y bydd y grant hwn yn helpu’r bobol ifanc i ddod dros heriau ac yn “rhoi hwb” i’w hunanhyder.

“Dyma newyddion da i bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu ac/neu anawsterau dysgu, ac fe ddaw ar yr un diwrnod ag y bydd fy nghydweithiwr, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn lansio gwasanaeth awtistiaeth integredig genedlaethol newydd i Gymru,” meddai.