David Cameron
Yn ôl y Prif Weinidog David Cameron, bydd diogelwch wrth wraidd y ddadl dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, wrth iddo gyhoeddi cynlluniau i gydweithio â Ffrainc ar ddatblygu awyren ddi-beilot newydd, blaengar.
Mae disgwyl i David Cameron gynnal trafodaethau â’r Arlywydd Francois Hollande mewn uwch-gynhadledd yn Ffrainc, a fydd yn canolbwyntio ar ddiogelwch a chysylltiadau rhyngwladol.
Bydd y ddau arweinydd yn ategu eu hymrwymiad i frwydro yn erbyn brawychiaeth ryngwladol, yn dilyn yr ymosodiadau ym Mharis y llynedd a laddodd 130 o bobol.
Ond mae gweinidogion sydd o blaid gadael wedi rhybuddio bod aros yn Ewrop yn golygu bod y wlad mewn mwy o berygl o ymosodiad fel yr un ym Mharis.
Gwersyll Calais – symud i Brydain?
Yn y cyfamser, mae gweinidog cyllid Ffrainc wedi dweud y gall pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd olygu y bydd y gwersylloedd i ffoaduriaid yn Calais yn cael eu symud i Brydain.
Awgrymodd Emmanuel Macron y gallai Paris ddod â chytundeb 2003 i ben sy’n galluogi swyddogion o’r DU fod yn Calais i rwystro pobol rhag dod i’r wlad yn anghyfreithlon.
Dywedodd hefyd y byddai croeso i fancwyr sydd am deithio o Lundain i Baris os byddai Prydain yn pleidleisio i adael Ewrop.
Rhybuddiodd na fyddai unrhyw wlad sy’n penderfynu gadael yr undeb o 28 o wledydd yn cael yr un amodau masnachu gyda phartneriaid blaenorol.