Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot
Fe fydd grŵp o Aelodau Cynulliad yn clywed tystiolaeth gan ffigurau blaenllaw o’r diwydiant dur heddiw, ddeufis ar ôl i 750 o weithwyr golli eu swyddi ym Mhort Talbot.
Bydd aelodau o gwmni Tata Steel, sy’n gweithredu yn y dref ddiwydiannol, a chwmni Celsa a Liberty Steel yn cyfarfod â Phwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad er mwyn trafod cyflwr y sector.
Bydd undebau llafur y diwydiant hefyd yn rhoi tystiolaeth, gan gynnwys Gweinidog yr Economi, Edwina Hart.
Mae’r diwydiant yn mynd drwy gyfnod ansicr iawn, gyda chostau ynni uchel a dur rhad o China yn effeithio arno.
Cyngor Dur yn cyfarfod ddoe
Cyn cyfarfod cyntaf o Gyngor Dur y DU ddoe, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, fod y diwydiant dur yng Nghymru’n wynebu “storm”.
“Gyda bron i hanner o ddiwydiant dur y DU yn cael eu cyflogi yma yng Nghymru, rydym yn rhy ymwybodol o’r gost ddynol i weithwyr dur yng Nghymru a’u teuluoedd,” meddai.
“Angen cynllun hirdymor”
Ychwanegodd Stephen Crabb: “Mae’r Llywodraeth yn brwydro yn erbyn arferion masnachu annheg, yn helpu â chostau ynni ac yn cefnogi’r sawl sydd wedi colli gwaith i ddod o hyd i waith newydd.
“Ond mae angen cynllun hirdymor arnom hefyd i sicrhau bod y diwydiant dur yn gynaliadwy ym Mhrydain ar gyfer degawdau i ddod. Mae’n rhaid i gwmnïau dur ac undebau fod yn rhan o’r ateb hwnnw.”