Edwina Hart
Fe fydd fforwm yng Nghaerdydd heddiw yn rhoi sylw i sut y gall materion gwyrdd roi hwb i economi Cymru.
Nod y fforwm yw trafod cydweithio er mwyn dod yn fwy arloesol, effeithlon a chynaliadwy o ran prosiectau gwyrdd.
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd mae Gweinidog yr Economi Edwina Hart a’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant.
Bydd y fforwm hefyd yn clywed gan arbenigwyr o fudiadau newid hinsawdd a chwmni Nestlé, yn ogystal â Marta Subirà i Roca o lywodraeth Catalwnia.
Mae’r digwyddiad yn dechrau am 10 o’r gloch bore dydd Iau, 3 Mawrth.