Mae’r mudiad Dyfodol i’r Iaith yn dweud ei fod wedi darganfod tystiolaeth fod S4C yn ystyried cyflwyno is-deitlau awtomatig ar ei rhaglenni yn y dyfodol.
Mae is-deitlau Saesneg awtomatig yn ymddangos ar amryw o raglenni’r sianel ar hyn o bryd, fel rhan o “ymgyrch” pum diwrnod, yn ôl S4C, i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth is-deitlo.
Ond yn ei strategaeth gorfforaethol, ‘S4C: Edrych i’r Dyfodol’, mae’r sianel yn nodi “bod modd arbrofi ymhellach gydag is-deitlau agored, ond heb wneud hynny’n arferiad ar bob rhaglen.”
Mae’n ychwanegu, drwy ddweud y bydd yn ystyried cael pob rhaglen sy’n cael ei darlledu ar ôl 10 o’r gloch y nos, yn rhai sy’n “cario is-deitlau agored.”
Mae’r sianel hefyd yn nodi ei bod “yn dal o’r farn y byddai gorfodi siaradwyr Cymraeg i wylio pob rhaglen gydag is-deitlau Saesneg agored ar y sgrin yn amharu ar eu profiad gwylio.”
Mae S4C wedi cael ei beirniadu’n hallt dros yr ymgyrch yr wythnos hon, gyda llawer yn poeni y bydd y gwasanaeth yn troi i fod yn un ddwyieithog yn hytrach na Chymraeg.
Er hyn, mae swyddogion y sianel wedi mynnu mai rhywbeth dros dro yw hyn, ac na fydd yn cyflwyno is-deitlau awtomatig yn y dyfodol.
‘Twyllodrus’
Yn ôl Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, mae’r sianel genedlaethol wedi “ceisio camarwain Cymru gyfan.”
“Mae hi bellach yn anodd rhoi cred yn rheolwyr S4C, sydd yn fwriadol wedi ceisio camarwain Cymru gyfan. Mae angen i Bennaeth a Chadeirydd S4C ystyried eu sefyllfa yn wyneb yr ymddygiad twyllodrus yma,” meddai.
“Mae ymateb siaradwyr Cymraeg ledled Cymru’n unfrydol, gan gynnwys ymysg ieuenctid sydd wedi bod yn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Mae’n druenus nad ydyn ni bellach yn gallu ymddiried yn rheolwyr ein sianel.”
Mae Golwg360 wedi gofyn i S4C am ymateb.