Helen Mary Jones
Fe fydd ‘Tîm Sir Gâr’ Plaid Cymru’n dod at ei gilydd ddydd Iau ar drothwy Cynhadledd Wanwyn y blaid yn theatr y Ffwrnes yn Llanelli.
Yn ôl Helen Mary Jones (ymgeisydd Cynulliad Llanelli), Simon Thomas (ymgeisydd Cynulliad Gorllewin Caerfyrddin) ac Adam Price (ymgeisydd Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) mae’r gynhadledd olaf cyn etholiadau’r Cynulliad fis Mai yn “ddigwyddiad arwyddocaol”, gan ddweud ei fod yn rhoi’r cyfle iddyn nhw rannu rhaglen lywodraeth uchelgeisiol a blaengar gyda’u cefnogwyr.
Fe fydd maniffesto bach Plaid Cymru dros Sir Gâr yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, gan amlinellu gweledigaeth y blaid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yr economi a chysylltu cymunedau lleol gyda’i gilydd.
‘Ymrwymo i wasanaethu’r sir arbennig hon’
Cyn y Gynhadledd yn Llanelli, dywedodd Helen Mary Jones mewn datganiad: “Mae Llanelli yn agos iawn at fy nghalon ac rwyf ar ben fy nigon y bydd ymgeisyddion a chefnogwyr Plaid Cymru yn cwrdd yma ar gyfer ein Cynhadledd.
“Mae’r etholiad hwn yn darparu cyfle cyffrous i Blaid Cymru roi ein rhaglen lywodraeth gerbron pobl Cymru a’u perswadio mai ni yw’r blaid orau i roi terfyn ar 17 mlynedd o dranc dan Lafur.
“Ynghyd a Simon Thomas ac Adam Price yng Ngorllewin a Dwyran Caerfyrddin, rwy’n gobeithio y bydd pobl Llanelli unwaith eto’n ymddiried ynof i’w cynrychioli fel rhan o’n ‘Tîm Sir Gâr’ sydd wedi ymrwymo i wasanaethu’r sir arbennig hon a phawb sy’n byw ynddi.”
Ardal hanesyddol i’r Blaid
Ychwanegodd Simon Thomas: “Gwnaeth Sir Gâr greu hanes 50 mlynedd yn ôl drwy ethol Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans. Gall Sir Gâr greu hanes unwaith eto drwy ethol tîm cryf o gynrychiolwyr Plaid Cymru – ‘Tîm Sir Gâr’ – gyda’r weledigaeth, y syniadau a’r penderfyniad i roi’r sir hon yn gyntaf.
“Fis nesaf byddwn yn lansio maniffesto bach Plaid Cymru i Gaerfyrddin – polisïau uchelgeisiol wedi eu gyrru gan ein syniadau a’n hegwyddorion cyffredin ar sut y gallwn wella gwasanaethau cyhoeddus, rhoi hwb i’r economi, a chysylltu cymunedau’n well ledled y sir.
“Cyn hynny, rwy’n edrych ymlaen at y dyddiau nesaf ble y byddwn yn cynnal nifer o sgyrsiau a thrafodaethau bywiog am raglen lywodraeth Plaid Cymru i wella bywyd pob dydd pobl ym mhob cwr o’r wlad.
‘Awydd i wella bywydau’
Dywedodd Adam Price: “Fel gweddill Cymru, yn drefol a gwledig, mae ar Sir Gâr angen llywodraeth sy’n deall anghenion ei dinasyddion, a chynrychiolwyr etholedig gyda’r awydd i wella bywydau’r bobl maent yn eu gwasanaethu.
“Mae llwyddiannau arweinyddiaeth Plaid Cymru o Gyngor Sir Gâr dros y deng mis diwethaf – ar ôl 12 mlynedd o Lafur wrth y llyw – yn dyst i’n hymroddiad i’r sir hon a’i phobl.
“Bydd ein cynllun i Sir Gâr yn cynnwys pum elfen – iechyd, addysg, trafnidiaeth, economi a chysylltedd – ac yn sicrhau newid ystyrlon i’r bobl sy’n byw yma. Rwy’n edrych ymlaen at ei gyhoeddiad a’r sgyrsiau niferus fydd yn codi yn ei sgil ledled y sir rhwng nawr a’r 5ed o Fai.”