Dur Liberty Steel
Mae teulu sy’n berchen ar gwmni Liberty Steel wedi rhybuddio bod costau ynni mewn perygl o atal y diwydiant dur rhag tyfu ac o orfodi’r diwydiant i fynd dramor.

Mae’r teulu Gupta yn awyddus i symud cyfarpar o hen safle dur yn Swydd Gaint i Gasnewydd, gan greu hyd at 1,000 o swyddi, gyda’r posibilrwydd o greu 3,000 o swyddi yn y pen draw.

Ond fe allai costau ynni olygu bod oedi cyn y bydd modd cwblhau’r gwaith.

Dywedodd Sanjeev Gupta fod rhaid symud o’r safle yn Swydd Gaint erbyn mis Mehefin, ac mai ymestyn y safle yng Nghasnewydd fyddai’r opsiwn orau i’r cwmni.

Ond fe ychwanegodd: “Mae India a’r Unol Daleithiau’n opsiynau amgen. Mae’r ddwy yn cynnig galw iach yn y farchnad, cefnogaeth bositif gan y llywodraeth a sicrwydd ynni.”

Pan ymgartrefodd Liberty yng Nghasnewydd, cafodd 150 o swyddi eu hachub.

Ychwanegodd Sanjeev Gupta: “Rydym yn benderfynol o greu busnes dur hyblyg o’r dechrau i’r diwedd a fydd yn cynnwys popeth o gynhyrchu dur hylifol i weithgynhyrchu a dosbarthu cynnyrch peirianneg â gwerth ychwanegol ar gyfer y farchnad gartref.”