Mae Cyngor Môn wedi penderfynu codi Treth y Cyngor o 25% ar gyfer eiddo sy’n wag am amser hir ac ail gartrefi.

Cafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan Bwyllgor Gwaith y cyngor ddydd Mawrth, ond bydd rhaid iddo fynd gerbron y Cyngor llawn cyn cael ei gyflwyno’n iawn.

Yn ôl y ffigurau, mae 2,311 o eiddo ar yr ynys yn ail gartrefi ac mae 784 o dai wedi bod yn wag am gyfnod hir, gyda 35% ohonynt wedi bod yn wag ers dros bedair blynedd.

Mae cynlluniau newydd Llywodraeth Cymru ar eiddo gwag ac ail gartrefi yn golygu y gall cynghorau sir gynyddu Treth y Cyngor hyd at 100% o fis Ebrill 2017 ymlaen.

Helpu pobol ifanc

Dywedodd y cyngor y byddai cyflwyno’r premiwm hwn o 25% i ddechrau, yn helpu pobol ifanc i aros yn yr ardal, gan geisio dod â thai sydd ddim yn cael eu defnyddio yn ôl ar y farchnad.

“Prif nod y premiwm yw ceisio cael eiddo gwag hir dymor y sir yn ôl i ddefnydd, ac nid creu incwm ychwanegol i’r Cyngor,” meddai Pennaeth Swyddogaeth Adnoddau Môn, Marc Jones.

“Mae’n rhaid sicrhau bod y premiwm yn cael ei osod ddigon uchel i gael effaith ar berchnogion eiddo gwag, fel y gellir eu dod a nhw yn ôl i ddefnydd. Ond rhaid hefyd sicrhau nad ydyw’n cael ei osod yn rhy uchel neu bydd hyn yn arwain at anawsterau wrth gasglu’r dreth gyngor.”

Adolygiad 

Bydd adolygiad ar effaith y premiwm hwn yn cael ei wneud cyn codi’r dreth yn uwch yn y dyfodol.

“Mae nifer o awdurdodau lleol wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru am y pwerau yma ers blynyddoedd lawer a nawr rydym yn gallu eu defnyddio,” meddai’r Cynghorydd Hywel Eifion Jones, sy’n gyfrifol am y portffolio Cyllid.

“Tydi hi ddim yn iawn fod yna gymaint o eiddo gwag yma, yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn wag ers dros bedair blynedd, felly mae’n rhaid ystyried hyn.

“Credaf y bydd premiwm o 25% yn gwneud gwahaniaeth, ond y bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn dal yn gallu casglu’r Dreth Cyngor sydd ei angen i redeg ein gwasanaethau.”

Bydd ymgynghoriad ar y cynnig yn dod i ben ddydd Gwener, 4 Mawrth a bydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Cyngor Llawn er mwyn gwneud penderfyniad terfynol ar ddydd Iau, 10 Mawrth.

Gall perchnogion eiddo gwag gysylltu â swyddog tai gwag Ynys Môn am gymorth ar 01248 752283.