Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea
Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi cymeradwyo’n unfrydol cyflwyno’r sancsiynau mwyaf llym yn erbyn Gogledd Corea ers 20 mlynedd.

Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu’r feirniadaeth sydd wedi bod o brofion niwclear diweddaraf Pyongyang sy’n herio’r gwaharddiad ar weithredoedd niwclear.

Roedd yr Unol Daleithiau a Tsieina wedi treulio saith wythnos yn trafod y sancsiynau newydd.

Maen nhw’n cynnwys archwilio nwyddau sy’n gadael ac yn cyrraedd Gogledd Corea, gwaharddiad ar werthu neu drosglwyddo arfau i Pyongyang, a diarddel diplomyddion o Ogledd Corea sy’n cymryd rhan mewn “gweithredoedd anghyfreithlon.”

Roedd yr Unol Daleithiau, ei chynghreiriaid yn y Gorllewin a Siapan wedi pwyso am sancsiynau newydd a oedd yn mynd y tu hwnt i’w rhaglen niwclear ond roedd Tsieina yn  amharod i gyflwyno mesurau a allai fygwth sefydlogrwydd Gogledd Corea ac  achosi i’w heconomi gwympo.