Aled Eirug, sydd wedi bod yn ymchwilio i hanes y gwrthwynebwyr cydwybodol
Dylai mwy o sylw gael ei roi i’r gwrthwynebwyr cydwybodol hynny wrthododd fynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ôl cyn-newyddiadurwr sydd wedi bod yn ymchwilio i’w hanes.

Mae hi’n ganrif heddiw ers i orfodaeth filwrol gael ei gyflwyno gan lywodraeth Prydain, er mwyn ceisio recriwtio mwy o filwyr i ymladd yn y rhyfel barodd o 1914-1918.

Yn ddiweddar mae Aled Eirug wedi bod yn ymchwilio i hanes yr unigolion hynny, gydag amcangyfrif bod tua 800 o Gymry wedi gwrthod ymuno â’r fyddin o 2 Mawrth 1916 ymlaen.

A chyda thipyn o sylw’n cael ei roi ar hyn o bryd i ddigwyddiadau cofio yn ymwneud â’r rhyfel, mae cyn-bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru yn credu bod peryg i’r gwrthwynebwyr cydwybodol hynny gael eu hanghofio.

“Y perygl yw ei fod e [y digwyddiadau cofio] yn mynd yn filwrol iawn. Dw i’n credu bod cofio’r bobol oedd yn erbyn y rhyfel yn bwysig iawn,” meddai.

Moesol a chrefyddol

Fe fu Aled Eirug yn traddodi darlith ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw yn sôn rhagor am ei ymchwil i hanes y gwrthwynebwyr cydwybodol.

Mae hefyd wedi bod yn cydweithio â Cyril Pearce o Brifysgol Leeds er mwyn ceisio llunio cofrestr o’r rheiny o Gymru oedd wedi gwrthod ymuno â’r fyddin.

Yn ôl amcangyfrifon Aled Eirug roedd rhwng 650 a 850 ohonyn nhw yn dod o Gymru, ac mae ei ymchwil yn mynd i fwy o fanylder am hanesion unigol rhai ohonynt.

“Roedd y rhan fwyaf yn gwrthwynebu ar sail rhyw gymysgedd o’r moesol a’r crefyddol. Roedd yr ILP [y Blaid Lafur Annibynnol] yn ddylanwadol iawn, achos nhw oedd yn helpu i redeg y cyrff oedd yn gwrthwynebu’r rhyfel,” esboniodd.

“Ond roedd y rhan fwyaf o wrthwynebwyr cydwybodol yn rhai ar sail grefyddol Gristnogol a dweud y gwir.”

Triniaeth wael

Roedd y gwrthwynebwyr cydwybodol – gan gynnwys taid Aled Eirug – yn cael amser caled tu hwnt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan wynebu cyhuddiadau o fod yn fradwyr a llwfrgwn.

Bu farw rhai hyd yn oed o ganlyniad i’r driniaeth gawson nhw yn ystod y rhyfel, a hyd yn oed ar ôl i’r ymladd ddod i ben roedd llawer ohonynt yn ei chael hi’n anodd cael eu derbyn gan eraill yn y gymdeithas.

“Un o’r problemau oedd bod gorfodaeth filwrol yn rhywbeth mor ddiweddar [yn 1916] bod y llywodraeth ddim yn siŵr sut i ddelio â nhw,” esboniodd Aled Eirug.

“Fe wnaethon nhw ddechrau drwy eu rhoi nhw dan ofal y fyddin, ac roedd hwnna yn fethiant o’r cychwyn cyntaf, felly yn raddol fe wnaeth pethau newid.

“Ond mi gafodd pobol amser anodd iawn o ran cael eu trin yn wael, cael eu dyrnu, cael eu gorfodi i wisgo dillad milwyr, gorfod bod yn noethlymun ac yn y blaen, mae lot o bethau fel ‘na yn digwydd.”

Agweddau’n newid

Yn fuan ar ôl y rhyfel fodd bynnag fe ddechreuodd agweddau tuag at y gwrthwynebwyr cydwybodol newid, ac roedd yn sefyllfa wahanol iawn erbyn i’r Ail Ryfel Byd gydio yn 1939.

“Yng Nghymru y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf i gael ei ddychwelyd fel Aelod Seneddol oedd yng Nghaerffili, dyn o’r enw Morgan Jones, mewn isetholiad yn 1921,” meddai Aled Eirug.

“Mae hwnna’n esiampl o sut oedd pobl wedi dod yn fwy cydymdeimladol ac yn fwy cefnogol ar ôl y rhyfel.

“Roedd y llywodraeth yn gwybod yn well sut i ddelio â gwrthwynebwyr cydwybodol erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd hynny’n drawiadol iawn. Er bod mwy o wrthwynebwyr, roedd lot llai yn mynd i’r carchar.”

Cyfweliad: Iolo Cheung