Adam Johnson yn cyrraedd Llys y Goron Bradford
Mae’r pêl-droediwr Adam Johnson wedi’i gael yn euog o un cyhuddiad o weithgarwch rhywiol â merch 15 oed, ond yn ddieuog o ail gyhuddiad.

Roedd y  rheithgor yn Llys y Goron Bradford wedi cael cyn-chwaraewr Sunderland  yn euog o fwyafrif o 10-2 ar ol i’r barnwr Jonathan Rose ddweud ei fod yn fodlon derbyn rheithfarn fwyafrifol.

Roedd Johnson, 28, wedi cyfaddef iddo annog merch 15 oed i gyflawni gweithred ryw drwy ei chusanu yn ei gar, ond roedd e wedi gwadu dau gyhuddiad mwy difrifol, sef cyfathrach eneuol a chyfathrach drwy ddefnyddio bysedd.

Cafwyd Johnson yn ddieuog o’r cyhuddiad o gyfathrach eneuol gyda’r ferch.

Honnir i’r troseddau gael eu cyflawni pan gyfarfu’r ddau yng nghar Johnson yn Swydd Durham ar Ionawr 30 y llynedd.

Mae’r barnwr wedi rhybuddio Johnson ei fod yn wynebu dedfryd o garchar. Cafodd ei ryddhau ar fechniaeth tan y gwrandawiad nesaf.