Fe fydd cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith yn cyfarfod â swyddogion S4C ddydd Gwener i drafod penderfyniad y sianel i roi is-deitlau Saesneg gorfodol ar raglenni drwy gydol yr wythnos.

Mae S4C wedi cael ei beirniadu’n hallt yn sgil ei phenderfyniad ac fe ddywedon nhw mai ymgais ydyw i ddenu rhagor o wylwyr di-Gymraeg.

Daw’r cyfarfod ar ôl i Gymdeithas yr Iaith anfon cwyn swyddogol i’r rheoleiddiwr teledu Ofcom ynghylch y mater.

Mae’r penderfyniad hefyd wedi cael ei feirniadu gan fudiad Dyfodol i’r Iaith, sy’n dweud “bod y Saesneg yn cael ei gorfodi” ar wylwyr selog S4C.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg ei bod wedi trefnu cyfarfod gydag S4C er mwyn trafod y mater.

‘Tanseilio ymdrechion’ dysgwyr

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith, Curon Wyn Davies: “Mae arfer S4C o orfodi is-deitlau Saesneg ar gymaint o raglenni yn annerbyniol ac yn groes i hawliau pobol i’r Gymraeg.

“Rydym yn parhau i alw ar Awdurdod S4C i wneud tro pedol a dod â’r arbrawf diddychymyg hwn i ben, a dychwelyd i ddarlledu heb is-deitlau Saesneg gorfodol yn ôl yr arfer.

“Mae is-deitlau’r wythnos hon yn tanseilio ymdrechion pobol i ddysgu’r iaith.

“Dylai penaethiaid y sianel ymddiheuro, ac ymrwymo i beidio â gwneud hyn byth eto.

“Rydyn ni wedi cwyno at yr awdurdodau, ond rydyn ni eisiau lleisio ein barn yn uniongyrchol gyda’r sianel.

“Gobeithio bydd modd cael trafodaeth adeiladol ynghylch sut y gallai’r sianel ehangu presenoldeb y Gymraeg ar draws nifer o blatfformau hefyd.”