Mae lle i gredu bod 36 o bobol wedi cael eu lladd wedi i nwy methan ollwng, gan achosi cyfres o ffrwydradau mewn pwll glo.

Roedd pump o achubwyr ac un o weithwyr y pwll ymhlith y rhai a gafodd eu lladd ym mhwll glo Vorkutaugol yn rhanbarth Komi yng ngogledd y wlad.

Digwyddodd y ddau ffrwydrad cyntaf ddydd Iau, gan ladd pedwar glowr.

Mae 26 o bobol ar goll, ond mae lle i gredu nad yw’r un ohonyn nhw wedi goroesi.

Cafodd 80 o weithwyr eu hachub.

Dydy casgliadau ymchwiliad ddim wedi cael eu cyhoeddi eto.