Ceredigion yw’r ardal fwyaf cefnogol yng ngwledydd Prydain i aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl arolwg gan YouGov.
Daw’r arolwg ar drothwy ymgyrchu brwd dros y misoedd nesaf gan y naill ochr a’r llall cyn y refferendwm ar Fehefin 23.
Cafodd barn mwy nag 80,000 o bobol ei chyrchu ar gyfer yr arolwg mewn 206 o ardaloedd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ac mae’r data’n seiliedig ar ymatebion pobol mewn 188 o’r ardaloedd hynny.
Trefi bychain ar y cyfan yw’r ardaloedd lle mae’r rhan fwyaf o bobol yn cefnogi aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Gwrth-Ewrop
Ar hyd arfordir de-ddwyrain Lloegr y mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n gwrthwynebu aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ond mae pump ardal yn ninas Llundain ymhlith y 10 ardal fwyaf cefnogol i aros.
Mae rhai o ardaloedd gogledd Lloegr ymhlith yr ail grŵp mwyaf gwrthwynebus, gan gynnwys Hull, Doncaster a Barnsley.
Mae cysylltiad agos mewn sawl ardal rhwng barn pobol am Ewrop a’u cyflogau, gyda’r rhai sydd yn ennill y cyflogau isaf yn llai cefnogol i’r Undeb Ewropeaidd.
Serch hynny, mae nifer o ardaloedd llewyrchus, Ceidwadol ymhlith yr ardaloedd mwyaf gwrthwynebus.
Wrth ymateb ar ei thudalen Twitter i’r canlyniadau, dywedodd Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones: “Codi calon i weld Ceredigion ar dop y pôl hwn.”