Hillary Clinton (llun o wefan ei hymgyrch)
Mae’r arolygon barn yn rhagweld buddugoliaeth glir i Hillary Clinton dros ei gwrthwynebydd Bernie Sanders yn etholiad Democratiaid talaith De Carolina heddiw.

Byddai ennill yn hwb fawr i ymgyrch cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau ar drothwy etholiadau ‘Super Tuesday’ yn 11 o’r taleithiau deheuol dydd Mawrth.

Byddai buddugoliaeth hefyd yn cadarnhau ei phoblogrwydd ymysg pleidleiswyr du, sy’n cyfrif am 55% o etholwyr Democratiaid De Carolina.

Er gwaethaf ei siom o golli De Carolina i Barack Obama yn 2008, mae Hillary Clinton wedi derbyn croeso brwd a chefnogaeth gref yn y dalaith y tro hwn.