Mae ffrwydrad mewn glofa yn rhanbarth gogledd Komi o Rwsia wedi lladd pedwar glöwr ac mae 26 arall ar goll.

Bu i nwy methan achosi dau ffrwydrad yn hwyr neithiwr gan ddymchwel twnnel gyda 110 o lowyr dan ddaear ar y pryd.

Yn ôl cwmni Vorkutagol mae tân yn dal i ruo dan ddaear yn y lofa.

Nid yw’r gwasanaethau brys wedi medru cysylltu gyda’r glowyr sy’n gaeth dan ddaear hyd yma.