Llun:RSPCA
Mae Aelod Cynulliad wedi bod yn dangos cefnogaeth i elusen gathod fwyaf Prydain yr wythnos hon wrth iddyn nhw lansio maniffesto arbennig ar gyfer yr anifeiliaid.

Cafodd y digwyddiad ei chynnal gan elusen Cats Protection, oedd wedi helpu canfod cartref newydd i 2,600 o gathod yng Nghymru yn 2014.

Yn ôl yr elusen mae 29% o gartrefi Cymru yn berchen ar o leiaf un gath, ac mae tua 670,000 ohonyn nhw yng Nghymru yn gyfan gwbl.

‘Gwerthfawrogi gan filiynau’

Yn eu Maniffesto Cymreig i Gathod mae’r elusen yn galw ar y llywodraeth i fabwysiadu polisïau newydd sy’n cynnwys mwy o reolaeth dros fridio a gwerthu cathod, gwahardd maglau a sicrhau bod mwy o gathod yn cael eu tagio.

Dywedodd AC Gogledd Cymru Mark Isherwood, fu yn y digwyddiad, ei fod yn falch o gefnogi gwaith yr elusen wrth iddyn nhw geisio gwella bywydau cathod, sydd yn “bwysig i filiynau o bobl”.

“Er eu bod nhw’n rhan hanfodol o fywydau cymaint o bobol, mae cathod yn aml yn cael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Rydw i’n gobeithio y bydd mwy o wleidyddion yn ymuno â mi yn 2016 i wella bywydau cathod yng Nghymru,” meddai’r Aelod Cynulliad.