Donald Trump
Mae’r biliwnydd Donald Trump wedi hawlio buddugoliaeth arall yn y ras i ddewis ymgeisydd y Gweriniaethwyr.
Daeth y ffigwr dadleuol i’r brig yn nhalaith Nevada, gan sicrhau tair buddugoliaeth yn yr ymgyrch hyd yn hyn.
Mae pump yn ras y Gweriniaethwyr erbyn hyn – Trump, Marc Rubio a Ted Cruz – y ffefrynnau ar hyn o bryd, a John Kasich a Ben Carson.
Fe wnaeth Jeb Bush benderfynu rhoi’r gorau iddi dros y penwythnos yn dilyn canlyniadau siomedig iddo yn Ne Carolina.
Yn ôl rhai ffigurau, mae gan Nevada y gyfradd uchaf yn yr Unol Daleithiau o bobol sy’n byw yn y wlad yn anghyfreithlon, gyda 19% o’i phoblogaeth wedi’u geni y tu allan i’r wlad.
Wrth ddathlu ei fuddugoliaeth, dywedodd Donald Trump wrth ei gefnogwyr mai fe fydd yn ennill y ras yn y diwedd.
“Mae’n mynd i fod yn ddau fis anhygoel,” meddai yn Las Vegas. “Efallai na fydd angen dau fis arnom ni i fod yn onest.”