Mae dyn yn ei 30au o Sir Benfro wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio mam ifanc leol, 27 oed.

Daeth Heddlu Dyfed Powys o hyd i gorff Natasha Bradbury, mewn fflat ar y Stryd Fawr yn Hwlffordd yn oriau mân fore dydd Llun.

Mae’r dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.

Mae crwner y sir bellach wedi agor a gohirio cwest i’w marwolaeth a does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.