Un o'r jihadwyr sydd wedi ymddangos yn fideos propaganda IS (llun: PA)
Mae IS yn “dechrau cracio” dan bwysau oherwydd ymosodiadau o’r awyr yn erbyn y grŵp brawychol, yn ôl yr UDA.

Dywedodd y cyrnol Steve Warren fod nifer yr ymladdwyr o dramor sydd yn cyrraedd Irac a Syria i ymuno â’r grŵp wedi lleihau.

Mae hynny wedi arwain IS i droi at fesurau mwy eithafol, gan gynnwys recriwtio milwyr sydd yn blant, a chuddio bomiau mewn copïau o’r Koran, er mwyn dal eu tir.

“Rydym bellach yn credu bod Daesh [yr enw arall ar IS] yn dechrau colli. Rydym yn eu gweld mewn cwrcwd amddiffynnol,” meddai’r cyrnol sydd wedi’i leoli yn Baghdad.

Dywedodd fod y grŵp wedi colli 40% o’u tiriogaeth yn Irac a rhyw 10% yn Syria, sy’n ganlyniad i ymosodiadau o’r awyr, gallu “cynyddol” byddin Irac, a’r glymblaid o 65 o wledydd sydd wedi dod at ei gilydd i drechu IS.