Mae corff dyn wedi ei ddarganfod yn afon Wysg ger y Fenni y bore yma.

Galwyd y gwasanaethau brys i’r ardal ger pont Llan-ffwyst ddydd Llun (Chwefror 22) gan achub y corff o’r dŵr am 10am, lle cafodd ei gyhoeddi’n farw.

Mae Heddlu Gwent wedi dweud bod eu hymchwiliadau’n parhau er mwyn darganfod amgylchiadau’r farwolaeth.