Papur newydd The New Day (llun: Trinity Mirror/PA)
Fe fydd y papur newyddion annibynnol cyntaf ers 30 o flynyddoedd yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun, gyda Trinity Mirror yn ei lansio.
Yn ôl y cwmni mawr o Lundain, sy’n berchen ar gyhoeddiadau fel y Western Mail a’r Daily Post, fe fydd ‘The New Day’ yn bapur ‘optimistaidd’ ac yn ‘niwtral yn boliticaidd’.
Dywedodd y cyhoeddwyr y byddai’r papur, a fydd ar gael i’w phrynu o ddydd Llun nesaf, yn “rhoi sylw i straeon pwysig mewn ffordd gytbwys, heb ddweud wrth y darllenydd beth i feddwl”.
Mynnodd ei fod yn bapur gwbl annibynnol a ddim yn “chwaer deitl” i’r Daily Mirror.
Llai yn prynu papurau print
Mae’r penderfyniad yn dod yn dilyn gostyngiad dramatig yng ngwerthiant papurau newyddion wrth i ddarllenwyr symud i wefannau ar-lein.
Bydd papur newydd The Independent a The Independent on Sunday yn cau fis nesaf ac yn troi i fod yn gyfrwng digidol yn unig.
Er hyn, mae Trinity Mirror yn mynnu bod galw o hyd am bapurau newydd ar ffurf print, ac y byddai The New Day yn apelio at ddarllenwyr newydd.
Bydd yn 40 o dudalennau o hyd ac ar gael am ddim o dros 40,000 o siopau ar ei ddiwrnod cyntaf, 29 Chwefror.
Ar ôl hynny, bydd ar gael am 25c am bythefnos ac yn gwerthu am 50c fesul copi yn dilyn y cyfnod prawf.
“Adlewyrchu” dyfodiad y we
Yn ôl y golygydd, Alison Phillips, sydd hefyd yn golygu’r Daily Mirror dros y penwythnosau, bydd y cyhoeddiad newydd yn “adlewyrchu ac yn deall” dyfodiad y we sydd wedi newid y ffordd mae pobol yn cael eu newyddion dyddiol.
“Felly, tra bod stori sydd newydd dorri, a bod gan bobol hynny ar flaenau eu bysedd ar eu ffonau drwy’r amser, yr hyn maen nhw eisiau’n aml iawn yw golygiad didosturi o’r diwrnod – dyma beth mae angen iddyn nhw gael gwybod,” meddai ar BBC Radio 4.
“Dw i’n meddwl bod y cyfryngau cymdeithasol a rhannu newyddion wedi newid y ffordd mae pobol yn gweithredu, o ran dydy pobol heddiw ddim am ryw bapur newydd mawr yn dweud wrthyn nhw’r hyn dylen nhw feddwl.”
Bydd gan y papur bresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol, ond fydd ddim gwefan ganddo.