Mae AS Ceidwadol Dyffryn Clwyd wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cefnogi’r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd James Davies ei bod hi’n bryd “symud ymlaen” fod yr addewid am refferendwm dros aelodaeth Prydain yn yr UE wedi bod yn un poblogaidd wrth iddo ymgyrchu ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.

Cyfeiriodd hefyd at bôl piniwn yng Nghymru oedd yn dangos yr ymgyrch i adael ar y blaen o 8% gan ddweud bod gweithredu’r refferendwm gafodd ei addo yn “fuddugoliaeth i ddemocratiaeth ynddo’i hun.”

Daw cyhoeddiad yr Aelod Seneddol ar ôl i Faer Llundain Boris Johnson ddweud hefyd ei fod yntau o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

‘Penderfyniad anodd’

Mynnodd James Davies ei fod yn falch o rai o lwyddiannau’r Undeb Ewropeaidd, fel ei gyfraniad i heddwch yn Ewrop a manteision economaidd cytundebau masnach rydd.

Ond dywedodd y byddai Prydain yn gallu gwario’i harian yn well pe na bai’n gorfod cyfrannu i gyllideb Ewrop, gan ddweud mai ychydig iawn oedd ynddi wrth iddo ddod i’w benderfyniad.

“Tan yn ddiweddar, roeddwn i’n credu y byddai dyfodol Prydain yn saffach fel rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ond mae’r drafodaeth genedlaethol a’r adborth lleol sydd wedi deillio o’r bleidlais sydd i ddod wedi gwneud i mi feddwl yn wahanol,” meddai mewn neges ar ei dudalen Facebook.

“Felly dw i wedi penderfynu, er ei bod hi’n un agos, i bleidleisio dros ‘adael’.

‘Adennill rheolaeth’

Wrth adael yr UE, fe ddywedodd James Davies y byddai Prydain yn “adennill rheolaeth o benderfyniadau democrataidd dros ei ffiniau a nifer o bwerau eraill.”

“Mae gennym y potensial i sicrhau bod yr holl rannau hynny o’r wlad, prifysgolion, ffermio a’r sectorau diwylliannol sydd wedi elwa o gyllid yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol yn cael eu hystyried fel derbynwyr tebyg mewn cynllun o Lywodraeth Prydain.”