Fe fydd hi’n cymryd “misoedd os nad blynyddoedd” i ynysoedd Fiji ddod tros effeithiau’r storm sydd wedi lladd mwyn ag 20 o bobol yno, meddai Cymro syn gweithio yn y wlad.
Fe fydd yr effaith hirdymor hyd yn oed yn fwy, meddai Dyfan Jones, sy’n gweithio i Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig ar yr ynys ac yn by wyn y brifddinas, Suva.
Roedd ef a’i deulu wedi cuddio o dan y grisiau yn eu tŷ wrth i’r storm fwrw – y ffyrnica’ i gael ei chofnodi erioed yn Hemisffer y De.
Ofn rhag coed yn disgyn
“Ro’n ni eisiau cwato yn ardal gryfaf y tŷ, rhag ofn bod coed yn disgyn i lawr a dod drwy’r to,” meddai wrth golwg360.
“Rydych chi’n gallu gweld â’ch llygaid eich hun yr effaith mae wedi’i gael fan hyn yn Suva ac eto, dim ond rhyw 120 milltir yr awr oedd y gwynt fan hyn o’i gymharu â 200 yn yr ardaloedd a oedd yng nghanol y storm.”
Dywedodd fod y rhagolygon yn dangos mai yn y brif ddinas fyddai llygad y storm, ond newidiodd gyfeiriad yn yr oriau cyn iddi gyrraedd, gan fwrw ardaloedd mwya’ anghysbell y wlad.
“Ni nawr yn aros i gael lot o’r wybodaeth gan y llefydd anghysbell lle mae’n anodd cael cysylltiad â phobol,” meddai.
Llorio pentrefi
Dyma’r corwynt mwyaf erioed i fwrw Fiji, ac mae wedi llorio rhai pentrefi, gyda thai wedi’u bwrw yn fflat i’r llawr.
“Y broblem oedd maint y storm, roedd maint y storm mor fawr, roedd hyd yn oed yr adeiladau cryfaf wedi cael eu bwrw.”
Dywedodd fod dros 20 wedi’u lladd erbyn hyn ac, er mai saith pysgotwr sydd yn swyddogol ar goll, mae’r amcangyfrif yn llawer uwch, gyda channoedd o deuluoedd yn methu â chysylltu â’u hanwyliaid.
“Y gobaith yw eu bod nhw yn ddiogel ond oherwydd bod y llinellau ffôn i lawr, dydy e ddim yn bosib cyfathrebu â nhw ar y foment.”
Mam i naw yn cael ei lladd
Mae’r colli bywydau yn parhau, meddai, wrth i lifogydd ddilyn y corwynt a mathau o salwch yn bwrw’r boblogaeth, gan fod prinder dŵr glân.
“Mae pryder mawr bydd salwch fel zika yn bwrw’r boblogaeth,” meddai Dyfan Jones.
“A’r nifer o bobol sydd wedi cael eu lladd o bethau yn hedfan yn yr awyr, roedd mam i naw o blant wedi llwyddo i gael ei phlant i gyd mas o’r tŷ ac i mewn i’r ysgol leol i guddio fan ‘na ac wedi mynd yn ôl i nôl dillad glân a sych i’r plant a chael ei tharo â darn o do’r tŷ cyferbyn.”
Economi’n dioddef
“O ran ailadeiladu tai, ailadeiladu busnesau, mae’r cynhaeaf siwgr eleni wedi cael ei ddinistrio, felly bydd yr economi leol yn cael ei bwrw’n wael ac mae hwn yn rhywbeth fydd yn cymryd amser hir i Fiji allu gwella ohono.”
Ar hyn o bryd, mae’r Cenhedloedd Unedig yn gweithio gyda llywodraeth y wlad ac elusennau i sicrhau bwyd a lloches i’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gwaethaf.
Ond yn ôl Dyfan Jones, mae rhai ynysoedd bychan y wlad yn anodd iawn eu cyrraedd, gan mai’r unig ffordd yw cwch a doedd dim lle i lwytho bwyd yn dilyn y storm.
“Bydd hyn yn cael effaith fawr ar y wlad,” meddai.
Stori: Mared Ifan