Llandrindod - uned fabanod newydd i'r dre (Penny Mayes CCA2.0)
Mae Llywodraeth Cymru am wario £1.7 miliwn i ddatblygu uned fabanod newydd yn Ysbyty Coffa Llandrindod, yn rhan o raglen ehangach i wella’r ysbyty.
“Bydd canolfan eni’r ysbyty ar ei newydd wedd yn darparu cyfleusterau modern ac amgylchedd o’r radd flaenaf,” meddai Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wrth gyhoeddi’r newyddion am yr uned fydwragedd.
Fe fydd cyfran o’r arian yn cael ei wario ar wella’r adeilad a godwyd yn 1881. Mae’r gwaith yn cynnwys gwella’r to a’r tu blaen ac, yn ôl y Llywodraeth, ddyalai’r gwaith ddim amharu ar y gwasanaeth i gleifion.
Mae’r buddsoddiad yn rhan o gam cyntaf rhaglen ehangach gwerth £5.3 miliwn i ddatblygu gwasanaethau’r ysbyty.
‘Gofal gorau posib’
“Mae mor bwysig bod mamau a babanod Powys yn cael y gofal gorau posib mewn uned fodern o dan arweiniad bydwragedd,” meddai Cadeirydd Bwrdd Iechyd Powys, Vivienne Harpwood.
“Mae hefyd yn galonogol iawn y bydd y buddsoddiad yn sicrhau bod adeiladwaith yr hen ysbyty hwn yng nghanol Powys yn parhau’n gadarn a’i fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda ar gyfer y dyfodol.”