Llun svonog CCA2.0
Mae undeb athrawon wedi galw ar i lywodraeth nesa’ Cymru roi blaenoriaeth i ‘gyllido teg’ i ysgolon wedi Etholiadau’r Cynulliad.
Mae NUT Cymru am weld mwy o gyllid yn dod i ysgolion Cymru gan gau’r bwlch sy’n bod, medden nhw, rhwng lefelau cyllido fesul disgybl yng Nghymru a Lloegr, a hynny erbyn 2020.
Mae’r galwadau’n rhan o faniffesto y mae’r undeb yn ei chyflwyno i’r holl bleidiau i geisio cael addewidion ganddyn nhw cyn yr etholiadau.
Y galwadau eraill
Mae’r undeb eisiau i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cymhariaeth rhwng y gwario fesul disgybl yng Nghymru a fesul disgybl yn Lloegr.
Maen nhw eisiau cynllun pum mlynedd i ddangos sut y bydd arian yn cael ei wario ar ysgolion.
Ac maen nhw eisiau rhaglen o fuddsoddi mewn ysgolion, er mwyn i blant
gael eu haddysg mewn “ysgolion modern heb asbestos.”
‘Dickensaidd’ meddai Plaid Cymru
Yr wythnos diwethaf, fe gymharodd arweinydd Plaid Cymru gyflwr adeiladau ysgolion Cymru i rai ‘Dickensaidd’.
Fe ddywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood, fod disgyblion Cymru yn “haeddu gwell na gorfod ymdopi gyda’r fath amodau anghyfforddus a gwrthgynhyrchiol.”
‘Cannoedd ar gannoedd yn llai’
“Mae cyllidebau ysgolion wedi eu hymestyn i’r fath raddau mae’n gadael effaith uniongyrchol ar allu athrawon i gefnogi eu disgyblion,” meddai David Evans, llefarydd NUT Cymru.
“Ynghyd â chyllido annigonol dros y blynyddoedd, lle mae disgyblion Cymru wedi cael cannoedd ar gannoedd yn llai mewn adnoddau o gymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr, rydym hefyd wedi gweld gwariant ysgolion yn disgyn am y tro cyntaf mewn degawd.”