Ty'r Cyffredin (Llun PA)
Mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Prydain a’i wrthwynebydd newydd, Maer Llundain, yn gwrthdaro am y tro cynta tros yr Undeb Ewropeaidd yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.
Fe gadarnhaodd y Maer, Boris Johnson, y bydd yn holi cwestiwn pan fydd David Cameron yn rhoi datganiad am y cytundeb newydd gyda gwledydd eraill yr Undeb.
Fe fydd rhaid iddo ateb cwestiynau am fanylion y cyfyngiadau ar daliadau budd-dal i fewnfudwyr – mae rhai o’r beirniaid wedi bod yn codi amheuon am eu hyd a’u lled.
Fe fydd David Cameron hefyd yn wynebu holi caled gan nifer sylweddol o’i aelodau mainc cefn, ac efallai y chwech aelod o’i Gabinet sydd wedi penderfynu ymgyrchu tros ‘Na’ yn y refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb.
Anghytuno rhwng dau weinidog
Ac mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, eisoes wedi anghytuno’n gyhoeddus gyda’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiwn, Iain Duncan Smith, gan wadu ei honiadau bod aelodaeth o’r Undeb yn peryglu diogelwch y Deyrnas Unedig.
Roedd yr Undeb yn ychwanegu at ddiogelwch, meddai, gan gynnwys rhannu gwybodaeth am droseddwyr a theithwyr a chydweithio i atal brawychiaeth.