Lluniau CarwynEdwards o dudalen yr ymgyrch
Mae dyn sy’n wreiddiol o ogledd Cymru mewn cyflwr difrifol yn yr Unol Daleithiau, ac yn aros am lawdriniaeth ar y galon ar hyn o bryd, wedi iddo fynd yn sâl yn sydyn ddiwedd mis Ionawr.
Mae Carwyn Edwards wedi byw a gweithio yn yr Unol Daleithiau ers 13 mlynedd, ond ar Ionawr 27 eleni fe ddeallodd ei fod yn dioddef o lid heintus ar falfau’r galon.
Mae ei frawd Aled Edwards, sy’n byw yn Llanllyfni, Gwynedd wedi sefydlu ymgyrch i godi arian ar gyfer y driniaeth, ac mae eisoes wedi codi mwy na £3,000 o fewn ychydig ddyddiau.
Fe esboniodd fod Carwyn Edwards wedi bod yn ddifrifol wael, ond maen’n disgwyl y llawdriniaeth heddiw yn Ysbyty Banner UMC yn Tuscon, Arizona.
‘Ceulo gwaed difrifol’
Ar dudalen yr ymgyrch, mae Aled Edwards yn egluro fel y mae’r llid yn achosi ceulo gwaed difrifol.
Eisoes mae wedi gorfod colli ei goes chwith uwchlaw’r pen-glin, ac mae disgwyl iddo golli rhan isaf ei goes dde hefyd.
Mae hefyd wedi cael niwed ar ei arennau, ac mae ar ddialysis cyson ar hyn o bryd, gyda’r ceulo’n gwneud ei ffordd i’w ymennydd.
O ganlyniad, mae’r llawdriniaeth sydd ei hangen ar ei galon wedi gorfod cael ei gohirio sawl gwaith.
Yswiriant meddygol
Yn ôl ei frawd, mae gan Carwyn Edwards yswiriant meddygol ar gyfer 85% o’r costau meddygol, ond mae’n gyfrifol am y 15% arall ei hun.
Mae ei frawd hefyd yn ceisio codi arian ar gyfer y cyfnod adfer a’r gost o’i gael yn ôl i’r Deyrnas Unedig.
“Fydd hi’n gyfnod hir cyn y gall o weithio a chynnal ei hun, dyna pam y bydd angen llawer o gymorth arno.”
Mae teulu Carwyn Edwards yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd.