Y seiclon wedi dinistrio cartrefi ar hyd a lled yr ynysoedd ddydd Sadwrn
Mae seiclon wedi dinistrio cannoedd o gartrefi yn Ffiji, wrth i o leiaf chwech o bobol gael eu lladd mewn gwyntoedd o hyd at 177 milltir yr awr.

Mae’r gwaith o lanhau’r ynysoedd eisoes wedi dechrau, wrth i nifer o brif ffyrdd a phrif faes awyr yr ynys gael eu hagor unwaith eto.

Bu farw dau o bobol ar ynys Ovalau pan wnaeth eu cartref ddymchwel o’u cwmpas, a bu farw dyn arall ar ynys Koro.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i adroddiadau bod dau o bobol wedi marw ar ynys Viti Levu.

Tarodd y seiclon yr ynysoedd ddydd Sadwrn, gan symud ymhellach i’r gorllewin dros nos.

Mae’r rhan fwyaf o’r ynysoedd yn dal heb drydan, ac mae 483 o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi ac aros mewn lloches dros dro.

Mae llywodraeth Ffiji wedi cyhoeddi cyfnod o argyfwng am 30 diwrnod.