Pedair gwobr ar y noson (Llun: Y Selar/Celf Calon)
Y grŵp o Ddolgellau, Sŵnami oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar mewn seremoni arbennig yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth nos Sadwrn.
Daethon nhw i frig y bleidlais gyhoeddus mewn pedwar o’r 12 categori, gan gipio’r gwobrau am y ‘Gân Orau’, ‘Record Hir Orau’, ‘Gwaith Celf Gorau’ a’r ‘Band Gorau’.
Mae’r gwobrau’n goron ar flwyddyn gofiadwy i’r grŵp wedi iddyn nhw greu argraff gyda theithiau i’r Iseldiroedd, a rhyddhau eu halbwm cyntaf.
Ywain Gwynedd
Ar ôl cipio tair gwobr llynedd, roedd yn noson dda unwaith eto i Ywain Gwynedd wrth iddo adael gyda’r wobr am y ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ am ‘Sebona Fi’, a gwobr yr ‘Artist Unigol Gorau’ am yr ail flwyddyn yn olynol.
Roedd yn noson dda hefyd i drefnwyr gigs Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol wrth iddyn nhw ennill gwobrau ‘Digwyddiad Byw Gorau’ ynghyd â ‘Hyrwyddwr Gorau’.
Am y tro cyntaf erioed bu’n rhaid rhannu gwobr hefyd gyda Huw Stephens a Lisa Gwilym yn gwbl gyfartal yn y bleidlais ar gyfer y ‘Cyflwynydd Gorau’.
Enillwyr eraill y noson oedd Band Pres Llareggub yn ennill ‘Band neu Artist Newydd Gorau’; Gwilym Bowen Rhys yn ennill ‘Offerynnwr Gorau’ a’r grŵp o Fôn, Calfari, yn ennill gwobr ‘Record Fer Orau’ am eu EP Nôl ac Ymlaen.
Gwobrau newydd
Cafodd gwobrau newydd eu cyflwyno, gydag ‘Aberystwyth yn y Glaw’ gan Ysgol Sul yn cipio teitl ‘Sengl Selar Orau’, a’r wobr am ‘Gyfraniad Arbennig’ yn cael ei rhoi i Datblygu.
Dywedodd trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone: “Mae wedi bod yn noson gofiadwy iawn unwaith eto, ac roedd hi’n anhygoel gweld Undeb y Myfyrwyr yn orlawn gyda’n agos at 1000 o bobl yn mwynhau’r gerddoriaeth.
“Does dim amheuaeth mai blwyddyn Sŵnami oedd 2015, ac maen nhw’n llawn haeddu eu llwyddiant heno.
“Dwi’n siŵr eu bod nhw, a’r enillwyr eraill, yn falch iawn bod cymaint o bobl wedi pleidleisio drostyn nhw, a gobeithio bydd pawb yn defnyddio hyn fel llwyfan ar gyfer y camau nesaf yn eu gyrfa.”
Enillwyr llawn Gwobrau’r Selar 2015:
Cân Orau (Noddir gan Ochr 1): Trwmgwsg – Sŵnami
Hyrwyddwr Gorau (Noddir gan Radio Cymru): Maes B
Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): Huw Stephens a Lisa Gwilym
Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo): Yws Gwynedd
Band Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion): Band Pres Llareggub
Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Stiwdio Gefn): Maes B
Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion): Gwilym Bowen Rhys
Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Sŵnami – Sŵnami
Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Sŵnami
Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd): Sŵnami – Sŵnami
Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Nôl ac Ymlaen – Calfari
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Sebona Fi – Yws Gwynedd