Y grŵp Datblygu ydi enillwyr cyntaf gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar.

Cyflwynwyd y wobr i David R Edwards, canwr y grŵp o Aberteifi, y prynhawn yma yn dilyn sgwrs arbennig rhyngddo â Griff Lynch fel rhan o weithgarwch ymylol Gwobrau’r Selar.

Tîm golygyddol cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar oedd yn dewis enillwyr y wobr, sydd yn eu tyb hwy wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

“Rydan ni’n falch iawn i gyflwyno’r wobr yma am y tro cyntaf i Datblygu – grŵp sydd wedi arloesi a gwthio’r ffiniau cerddorol yn y Gymraeg, a sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i’r sin iach ac amrywiol rydan ni’n ei adnabod heddiw” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Roedden ni’n teimlo ei bod yn amserol i gyflwyno’r wobr yma i Datblygu ar ôl iddyn nhw ryddhau eu halbwm llawn cyntaf ers 20 mlynedd, Porwr Trallod, ym mis Rhagfyr.

“Pan ddechreuodd Datblygu ysgrifennu a chyhoeddi cerddoriaeth ar ddechrau’r 1980au, roedd yn wahanol i unrhyw beth oedd wedi’i glywed yn y Gymraeg cyn hynny ac wrth iddyn nhw barhau i arbrofi dros y ddegawd ganlynol fe ddaethon nhw i fod yn un o grwpiau pwysicaf Cymru.”