Mae llywodraeth Syria wedi beirniadu’r modd y mae byddin Twrci wedi bod yn bomio’r wlad, gan ddisgrifio’r tanio fel “amharch anhygoel” i gyfraith ryngwladol.

Mae Syria hefyd wedi cyhuddo Twrci o gyflawni “troseddau” yn erbyn pobol Syria trwy ymosod ar ardaloedd yn nhalaith gogleddol Aleppo.

Mewn datganiad gyhoeddwyd gan yr asiantaeth newyddion SANA, mae’r llywodraeth hefyd yn dweud fod nifer o bobol gyffredin wedi’u lladd yn Tel Rifaat, Malikiyeh a threfi eraill.

Yn ystod yr wythnos ddiwetha’, mae Twrci wedi bod yn tanio dros y ffin, gan ddweud ei bod yn targedu safleoedd sydd wedi’u meddiannu gan wrthryfelwyr Cwrdaidd sy’n cael cefnogaeth yr Unol Daleithiau.

Mae Twrci hefyd wedi bygwth anfon milwyr i ymladd ar y ddaear, gan ddweud fod ganddi’r hawl i’w hamddiffyn ei hun yn wyneb taflegrau sy’n cael eu tanio ati o Syria.