Mae David Cameron wedi cynnull ynghyd ei Gabinet, er mwyn trafod y ddêl newydd ynglyn ag aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Y cyfarfod hwn sy’n tanio’r ymgyrch fydd yn arwain at refferendwm yng ngwledydd Prydain tros aros neu adael Ewrop.

Ymysg y gweinidogion fore heddiw sydd o blaid gadael yr Undeb – y rheiny sy’n gefnogwyr ‘Brexit’ – y mae Iain Duncan Smith a Chris Grayling, ac fe fydd rhyddid ganddyn nhw i ddechrau ymgyrchu gyda’r ochr ‘Na’ wedi’r cyfarfod. Gyda nhw hefyd, er mawr siom i David Cameron ei hun, y mae’r Gweinidog Cyfiawnder, Michael Gove.

Wedi trafodaethau maith gyda chyd-arweinyddion o Ewrop yn ninas Brwsel ddoe, fe lwyddodd David Cameron i roi at ei gilydd becyn o ddiwygiadau, ac fe gyhoeddodd yn hwyr neithiwr y byddai’n ymgyrchu “â’i holl galon” i aros yn aelod o’r Undeb.

Mae’r Canghellor, George Osborne, wedi dweud fod y pecyn yn “mynd i’r afael â’r ofnau mawr sydd gan bobol”, ac fe rybuddiodd y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn “naid anferth yn y tywyllwch” ac y byddai’n “risg” i economi a diogelwch gwledydd Prydain.

Ond mae’r rheiny sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn diystyru’r pecyn fel un “diystyr”, gan ddatgan mai dim ond tynnu allan yn llwyr o’r Undeb fyddai’n rhoi pwerau go iawn i’r Deyrnas Unedig.