Pwy sy’n cofio Ewropa, cyfres materion cyfoes BBC Cymru ddiwedd y 1990au? Mae gen i frith gof ohoni’n slot cysglyd S4C ar bnawniau Sul, gyda straeon o Lisbon i Ljubljana a mwy. Mae’r gyfres yn parhau ar sianel Aeleg y BBC dan y teitl Eòrpa, a’r rhifyn diweddaraf yn ymchwilio i argyfwng gordwristiaeth Ynysoedd Dedwydd Sbaen. Mae ar iPlayer i’r gweddill ohonom, ond rydyn ni ar ein colled yn y Gymraeg, yn enwedig â chymaint yn y fantol ar ein cyfandir heddiw. Fuaswn i fawr callach o’r hyn sy’n digwydd ar draws y Sianel, oni bai am golofn fisol ragorol cylchgrawn Barn a chyfraniadau cyson Mared Gwyn, gohebydd Euronews ym Mrwsel, i raglenni fel Dros Ginio. America ydi popeth ‘tramor’ i bapurau a sianeli newyddion Prydain, ac adolygwyr amser brecwast Radio Cymru yn eu tro. Mae gynnon ni bedwar mis blinderus o Trump a Biden eto i ddod.
Syrffio’r sianeli oeddwn i nos Sul diwethaf, i ddianc rhag diflastod goliau-eiliad-ola’ Nhw yn erbyn Slofacia ar ITV. Cofio’n sydyn am ganlyniad etholiad fawr arall, a throi at ap sianel newyddion France 24 ar y teledu clyfar. Y fersiwn Saesneg, wrth gwrs, gan nad ydi fy Ffrangeg TGAU à trente ans yn ddigon tebol. Mae rhifynnau Saesneg, Arabeg a Sbaeneg yn ogystal â’r iaith gynhenid yn darlledu i wylwyr rhyngwladol ers 2006. Ac ar y nos Sul hwnnw, roedd hanner dwsin coeth oedd yn gwneud i gyfranwyr Newsnight edrych yn reit slebogaidd, yn syfrdan rownd bwrdd y stiwdio. Roedd plaid gwrth-ymfudwyr wedi cael llwyddiant ysgubol yn rownd gyntaf etholiad byrbwyll Macron i’r Assemblée nationale:
Le Pen’s far right is on the cusp of power in France – what happens next?
Wrth i’r canlyniadau lifo i mewn, daeth hi’n amlwg bod y National Rally neu le Rassemblement National (RN) – plaid gafodd ei sefydlu yn wreiddiol yn 1972 gan amheuwr yr holocost a thad Marine Le Pen – wedi bachu 296 o’r 577 o etholaethau. Torrwyd o’r stiwdio i luniau byw o brotestwyr ifanc yn chwifio baneri Ffrainc, Palesteina, rhai comiwnyddol, enfys LHDT, a ffaglau’n goleuo’r Place de la Republique ddu bitsh. Ers hynny, mae pleidiau’r canol a’r chwith wedi brasgamu i uno neu dynnu’n ôl rhag hollti’r bleidlais ac arwain at brif weinidog newydd 28 oed yn Jordan Bardella (RN) yn ail rownd y penwythnos hwn. Mae maniffesto’r RN yn cynnwys addewidion i dorri trethi ynni, gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion a nadu hawl pobol-dau-basport (newydd-ddyfodiaid i Ffrainc) i swyddi ym maes diogelwch neu amddiffyn. Gyda’r Prif Weinidog Bardella wrth y llyw, byddai’r Arlywydd Macron yn gorfod rhannu grym neu “cohabitation” chwithig â phlaid sydd â chysylltiadau hanesyddol-agos â Putin. Sôn am drychineb PR i wlad sy’n llwyfannu’r Gemau Olympaidd ddiwedd y mis!
Roedd adroddiad diddorol Justin Webb ar gyfer The Today Podcast ar BBC Radio 4 yn esbonio’r cefndir i ni. Bu’n ymweld â département neu ardal weinyddol L’Aisne yn y gogledd-ddwyrain, lle pleidleisiodd 50% dros RN yn etholiadau Ewrop ddechrau Mehefin. Roedd tref ganoloesol Laon wedi gweld ffatrïoedd yn gadael, boulangerie yn cau, dim trafnidiaeth gyhoeddus ar y Sul, a meddygon yn brin – a phlaid Le Pen yn elwa i’r eithaf ar ddadrithiad y werin gydag elît Paris 86 milltir i ffwrdd. Mae rhywun yn ofni’r gwaethaf mewn trefi tebyg yn nes at adra, a phlaid Reform UK yn snwffian o gwmpas etholiadau’r Senedd yn 2026.
Nos Sul yma, bydd pawb o’r BBC i Sky News a hyd yn oed The Sun ym mharti dathlu Starmer. Gwylio France 24 yn nerfus ar y naw fydda i.