Radovan Karadzic wedi'i gyhuddo o droseddau rhyfel, gan gynnwys hil-laddiad
Fe fydd y tribiwnlys i droseddau’r rhyfel Iwgoslafaidd yn cyhoeddi ei reithfarn yn erbyn cyn-arweinydd Bosnia, Radovan Karadzic fis nesaf.

Mae Karadzic yn cael ei amau o fod yn gyfrifol am gyflawni erchyllterau yn ystod y rhyfel ym Mosnia.

Fe gyhoeddodd llys y Cenhedloedd Unedig heddiw y bydd barnwyr yn penderfynu ei dynged mewn gwrandawiad ar 24 Mawrth.

Mae erlynwyr yn credu y dylai’r cyn-arweinydd gael ei ddedfrydu i oes yn y carchar pe bai’n cael ei ganfod yn euog.

Gwadu cyhuddiadau

Mae Karadzic yn wynebu 11 cyhuddiad i gyd, gan gynnwys hil-laddiad, llofruddiaeth a threisio, ond mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau.

Wrth i’w achos llys hirfaith gau yn 2014, dywedodd wrth y dyfarnwyr: “Doedd y rhyfel heb ddigwydd yn y ffordd roeddwn i am iddo wneud.”

Cafodd 100,000 o bobol eu lladd yn y rhyfel rhwng 1992 a 1995.