Gallai'r dyfarniad heddiw arwain at apeliadau
Mae’r gyfraith fenter ar y cyd, a allai arwain at gael pobol yn euog o ymosod neu lofruddio hyd yn oed os nad oedden nhw wedi gwneud hynny’n uniongyrchol, wedi cael ei dehongli’n anghywir dros y 30 mlynedd diwethaf, yn ôl y Goruchaf Lys.
Gallai’r dyfarniad heddiw arwain at lansio apeliadau gan bobol sydd yn y carchar am gyd-fentrau o’r fath.
Dywedodd y Goruchaf Lys y dylai erlynwyr, barnwyr a rheithgorau drin diffinyddion o’r fath mewn ffordd wahanol, ac nad yw hi’n “iawn” bod rhywun yn euog am ei fod wedi rhagweld y byddai rhywun yn cyflawni trosedd.
O hyn ymlaen, dylai rheithgorau drin achos o ragweld trosedd fel tystiolaeth i’w hystyried, ac nid fel prawf.
Annog ffrind i lofruddio
Roedd panel o bum barnwr y Goruchaf Lys wedi dadansoddi’r mater mewn gwrandawiad yn Llundain fis Hydref, wrth ystyried apêl gan ddyn a gafodd yn euog o lofruddio ar ôl annog ei ffrind i drywanu heddwas.
Cafodd Ameen Jogee a Mohammed Hirsi, y ddau yn eu hugeiniau, ddedfrydau oes yn Llys y Goron Nottingham ym mis Mawrth 2012, am lofruddio Paul Fyfe.
Cafodd Mohammed Hirsi, a drywanodd y dyn, ddedfryd o o leiaf 22 mlynedd, a chafodd Ameen Jogee, a wnaeth annog ei ffrind, leiafswm o 20 mlynedd yn y carchar.
Mae dedfryd Ameen Jogee, bellach wedi cael ei leihau i 18 mlynedd gan y Llys Apêl, ac mae’r Goruchaf Lys wedi caniatáu ei apêl yn erbyn ei gyhuddiad, ond bydd yn aros yn y carchar tan i benderfyniad terfynol gael ei wneud.
Wrth siarad cyn y dyfarniad, dywedodd Tracey Fyfe, gweddw Paul Fyfe, y byddai caniatáu apêl Ameen Jogee, yn golygu na fydd llofruddwyr yn cael eu cosbi.