Y nifer fwyaf o ymweliadau ers i gofnodion ddechrau yn 2006
Gwnaeth mwy o bobol ymweld ag adrannau brys ysbytai yng Nghymru ym mis Ionawr eleni nag erioed o’r blaen, yn ôl y ffigyrau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi.

Roedd 80,438 o bobol wedi bod mewn adran ddamweiniau acachosion brys fis diwethaf, o’i gymharu â 73,435 yn ystod yr un cyfnod y llynedd, y nifer uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 2006.

Fe wnaeth hynny hefyd arwain at gynnydd yn y nifer o gleifion oedd yn aros am dros bedair awr, oedd yn uwch na mis Rhagfyr 2015 yn ogystal â’r flwyddyn gynt.

Daw’r ffigyrau newydd wrth i’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gyhoeddi £45 miliwn yn rhagor o gyllid er mwyn galluogi’r gwasanaeth iechyd i fynd i’r afael â’r pwysau ychwanegol dros y gaeaf.

Effaith y tywydd

Dim ond 78.5% o achosion brys ym mis Ionawr a gafodd eu datrys o fewn pedair awr, cwymp o’r 81.4% ym mis Rhagfyr 2015 a thipyn is na’r nod gyffredinol o 95%.

Roedd rhai dyddiau hefyd yn llawer prysurach na’i gilydd, yn ôl y ffigyrau, gydag adrannau brys yn gorfod ymdrin â nifer o gleifion â man anafiadau yn ystod dyddiau pan fu’r tywydd yn rhewllyd.

“Ar rai diwrnodau ym mis Ionawr, roedd nifer y bobol a fynychodd adrannau brys hyd at 25% yn uwch na’r un adeg y llynedd,” meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Mae’r wybodaeth reoli hefyd yn dangos bod nifer yr ambiwlansys a gyrhaeddodd ysbytai hyd at 25% yn uwch y mis Ionawr hwn na’r cyfartaledd y llynedd.

“Er gwaethaf hyn, mae staff ein gwasanaeth iechyd yn parhau i reoli’r cyfnodau o gynnydd sydyn mewn galw ac er bod ein hysbytai’n brysur iawn mae cyfnodau o bwysau ar adegau.”

Rhyddhau gwlâu

Fe gyfaddefodd Vaughan Gething fod y ffigyrau aros diweddaraf yn yr adrannau brys yn siomedig.

Ac fe ddywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, bod angen gwneud mwy i leihau’r niferoedd oedd yn aros yn yr ysbyty’n ddiangen fel bod mwy o amser i ymdrin ag ymweliadau i’r adrannau brys.

“Mae cynlluniau tymor hir ar waith ar gyfer gofal heb ei drefnu, gan gynnwys datblygu llwybrau gofal amgen a ffocws ar integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol i leihau nifer y bobol sy’n mynd i’r ysbyty yn ddiangen neu sy’n aros mewn ysbyty er mwyn i ofal cartref gael ei drefnu,” meddai.

“Bydd hyn yn golygu y bydd llai o bobol yn dioddef oedi diangen yn yr ysbyty, gan ryddhau gwelyau a lleihau’r pwysau ar ein hadrannau brys.”