Paul Flynn yn dweud bod David Cameron yn ceisio osgoi problemau mewn ardaloedd Ceidwadol
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi cyhuddo David Cameron o ragrith yn sgil y ffordd y mae ffoaduriaid o Syria wedi cael eu hadleoli ym Mhrydain.

Roedd disgwyl i Brif Weinidog Prydain addo mwy o gefnogaeth heddiw i ymdrechion Ewrop i daclo smyglwyr sy’n cludo ffoaduriaid ar draws Môr y Canoldir o Dwrci i Ewrop.

Ond wedi i gannoedd o bobol sydd wedi ffoi rhag yr ymladd yn Syria gyrraedd Prydain, mae Paul Flynn wedi cyhuddo Cameron o osgoi problemau sydd yn nes gartref.

Yn ôl Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd, mae’r Llywodraeth wedi anfon y rhan fwyaf o ffoaduriaid i etholaethau Llafur, gan osgoi rhoi baich ar wasanaethau mewn ardaloedd Ceidwadol.

‘Baich annheg ar wasanaethau’

Mynnodd Paul Flynn ei bod hi’n annheg nad oedd unrhyw ffoaduriaid wedi cael eu hanfon i etholaethau fel un David Cameron yn Whitney, tra bod cannoedd wedi cyrraedd ardaloedd fel Casnewydd a Chaerdydd.

“Fe ddylai e arwain drwy ei esiampl ei hunan,” meddai Paul Flynn wrth golwg360.

“Does neb wedi dod i etholaeth David Cameron, neb i etholaeth [y Canghellor George] Osborne, a bron neb yn etholaeth [yr Ysgrifennydd Gwladol] Theresa May chwaith. Maen nhw bron i gyd yn dod i etholaethau Llafur.

“Dydyn nhw ddim yn cymryd eu siâr nhw o’r problemau, ac wrth gwrs bod problemau yn dod.

“Mae llawer o bobol [yn cyrraedd ar unwaith] yn mynd i bwyso ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau addysg lle mae’r ffoaduriaid yn dod. Ond dydy e ddim yn cael ei ddioddef gan ardaloedd y Prif Weinidog a’i griw yn y Cabinet.”

Smyglo’n parhau

Mae David Cameron ym Mrwsel yr wythnos hon er mwyn ceisio taro bargen ag arweinwyr Ewropeaidd ar ddiwygiadau cyn refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl iddo hefyd ddangos cefnogaeth i ymdrechion cryfach i daclo’r llif o bobol sydd yn cael eu smyglo o’r Dwyrain Canol i Ewrop, er mwyn lleihau’r nifer o ffoaduriaid sydd yn cyrraedd.

Ond dywedodd Paul Flynn ei fod yn amau pa mor effeithiol fyddai unrhyw gamau pellach, gyda miloedd o ffoaduriaid eisoes yn Ewrop a swyddogion llwgr yn rhy barod i helpu’r smyglwyr ar adegau.

“Mae pobol yn gwneud arian oddi wrth broblemau pobol eraill yr holl ffordd o Syria i Dover,” meddai.

“Dydy [ymdrechion i’w hatal] ddim wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn. Maen nhw [y smyglwyr] yn cynnig bribes i bobol ar y fferis a’r trenau, dyna sut mae’r system yn gweithio – mae’n bosib i chi dalu i fynd o Calais i Dover.

“Does dim llwyddiant wedi bod hyd yn hyn gan David Cameron a’r llywodraeth leihau effaith y gangiau.”