Vladimir Putin
Mae dwy jet Typhoon o awyrlu Prydain wedi cael eu hanfon allan mewn ymateb i adroddiadau fod awyrennau bomio Rwsiaidd yn hedfan tuag at wledydd Prydain.

Cafodd yr awyrennau eu hanfon o RAF Coningsby yn Swydd Lincoln yn dilyn rhybudd diogelwch.

Dywedodd llefarydd ar ran yr awyrlu bod y sefyllfa yn “parhau” ond nad oedd hi’n un anghyffredin.

Yn ôl adroddiadau mae’r awyrennau gafodd eu gweld yn rai pellter hir sydd yn cael eu defnyddio gan luoedd arfog Rwsia, a dydyn nhw erioed wedi dod i mewn i ofod awyr Prydain o’r blaen.

Mae awyrennau Typhoon yn cael eu defnyddio gan Brydain ar gyfer nifer o wahanol weithredoedd, ac fe gawsant eu defnyddio’n ddiweddar yn yr ymgyrch fomio yn erbyn IS yn Syria.