Mae heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ymchwilio yn dilyn marwolaeth sydyn dyn o Faesteg. Fe ddaethpwyd o hyd i’w gordd yn afon Llynfi ddydd Llun.

Roedd Brian Stacy Hayes, ‘Stacy’ i’w ffrindiau a’i deulu, wedi bod ar goll o’i gartre’ yn Bangor Terrace, Nantyfyllon, ers dydd Sul.

Mae Heddlu De Cymru’n dweud eu bod nhw ar hyn o bryd yn ceisio gweithio allan lle’r oedd Mr Hayes wedi bod yn ystod dyddiau ola’i fywyd.

Y tro diwetha’ i unrhyw un ei weld oedd o gwmpas 11yb ar fore Gwener, Chwefror 12.