Mae gweithiwr mewn parc bywyd gwyllt yn Ne Affrica wedi marw yn dilyn ymosodiad gan lew.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ym mharc Hluhluwe-Imfolozi yn nhalaith KwaZulu-Natal ddydd Llun.

Roedd y dyn 45 mlwydd oed newydd gerdded allan o afon, ar ôl bod yno’n trwsio pwmp dwr ar gyfer caban twristiaid gerllaw.

Roedd y llewes yn diodde’ o’r diciàu ac wedi anafu ei choes, ac roedd hynny wedi’i rhwystro rhag hela anifeiliaid gwyllt ers tro. Wedi iddi ymosod at y gweithiwr, fe gafodd hithau ei lladd gan staff y parc.