Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi cadarnhau y bydd yn rhoi £74.5m i S4C yn ystod 2017/18, sy’n golygu bod yr arian mae’r sianel genedlaethol yn derbyn gan y gorfforaeth yn aros yr un fath am flwyddyn arall.

Fe ddaw’r setliad ariannol presennol i ben ym mis Mawrth 2017, ac mewn llythyr at Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Rona Fairhead, y byddai sicrwydd ariannol tan 2018.

Golyga hyn y bydd S4C yn derbyn yr un swm o arian gan Ymddiriedolaeth y BBC ag y mae ar hyn o bryd.

Mae’n dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth y bydd yn parhau i ariannu’r sianel yn 2016/17 ar y lefel bresennol ac yn adolygu’r sianel yn 2017.

‘Sicrhau incwm sefydlog’

“Rwy’n falch y bydd y bartneriaeth gref rhwng y BBC ag S4C yn parhau i ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd, drwy sicrhau incwm sefydlog hyd at 2018,” meddai Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru.

“Yng nghyfnod nesaf y Siarter, rydym yn gobeithio gosod y sylfeini ar gyfer perthynas newydd ag S4C gan barhau i ddarparu rhaglenni Cymraeg o safon uchel i gynulleidfaoedd ledled Cymru.”