Mae’r Heddlu Trafnidiaeth wedi rhyddhau lluniau teledu cylch cyfyng o ddau ddyn y maen nhw’n awyddus i siarad â nhw, yn dilyn lladrad yng ngorsaf drenau Bangor fis diwetha’.

Tua 8 o’r gloch nos ar Ionawr 8, roedd dynes 19 oed o Ddeganwy yn aros trên ar blatfform yn y stesion. Ar ôl defnyddio peiriant gwerthu tocynnau, fe ollyngodd ei phwrs yn anfwriadol ger y peiriant… cyn i ddau ddyn ddod heibio a chodi’r pwrs. Fe dreulion nhw rai munudau’n edrych trwy gynnwys y pwrs, cyn mynd ag o i’r swyddfa.

Ar ôl sylwi fod ei phwrs ar goll, fe aeth y ddynes i holi staff yr orsaf, a chael ei phwrs yn ôl. Ond dyna pryd y sylweddolodd fod £60 ar goll o’r pwrs.

Yn ôl apêl yr Heddlu Trafnidiaeth, mae’r ddau ddyn sydd i’w gweld yn y lluniau CCTV yn sefyll ger y safle bws o flaen swyddfa docynnau stesion Bangor, cyn y maen nhw’n mynd i mewn i gar lliw tywyll o gwmpas 8.25yh.