Yemen
Mae beth bynnag naw o aelodau ifanc o’r fyddin wedi’u lladd yn ne Yemen, wedi i hunanfomiwr ffrwydro dyfaid wrth glwydi gwersyll milwrol. Y gred ydi fod y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger dinas ddeheuol Aden. Mae cynghrair o luoedd Sawdi Arabia a Yemen wedi bod yn rheoli’r ardal ers haf y llynedd, gan anfon rhai o lwyth yr Houthis a’u cynghreiriaid oddi yno. Er bod cyfraith a threfn wedi mynd rhwng y cwn a’r brain yno, mae gan IS ac al-Qaeda ganghennau yn Aden, ac maen nhw wedi creu eu hardaloedd diogel eu hunain o fewn y ddinas.

Roedd y gwersyll a gafodd ei dargedu heddiw, yn hyfforddi milwyr newydd i fyddin de’r wlad.

Fe ddaeth yr ymosodiad hwn ddiwrnod wedi ymgais aflwyddiannus i ladd llywodraethwr Aden a phennaeth yr heddlu – y drydedd ymgais o fewn y deufis diwetha’.