Mae’r canran o bobol Cymru a fyddai’n pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cynyddu o fewn y ddeufis diwethaf, yn ôl y pôl piniwn diweddaraf i gael ei chyhoeddi’r wythnos hon.

Bellach mae 45% yn dweud eu bod nhw’n bwriadu pleidleisio i adael Ewrop, o’i gymharu â 37% sydd am aros, yn ôl yr arolwg gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac ITV.

Mae’r canran sydd eisiau gadael tri phwynt yn uwch nag yr oedd hi yn y pôl diwethaf i ofyn y cwestiwn nôl ym mis Rhagfyr.

Ond mae’r polau Prydeinig yn amrywiol tu hwnt o hyd, gyda gwahanol gwmnïau arolygu yn dangos bod yr ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, neu i adael, wedi bod ar y blaen.

‘Anodd dweud eto’

Dim ond 3% o’r bobol wnaeth ymateb i’r pôl ddywedodd nad oedden nhw’n bwriadu pleidleisio yn y refferendwm, sydd yn debygol o gael ei chynnal rywbryd ym mis Mehefin, a doedd 16% ‘ddim yn siŵr’. Awgrymodd yr un arolwg barn bod cefnogaeth i UKIP yng Nghymru yn tyfu, a hynny llai na thri mis cyn etholiadau’r Cynulliad.

Yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru mae’r gwahaniaethau amlwg rhwng gwahanol bolau yn awgrymu nad oedd modd bod yn siŵr eto i ba gyfeiriad mae’r gwynt yn chwythu pan mae’n dod at y refferendwm ar Ewrop.

“Mae ein pôl newydd ni’n ffitio â darlun cyffredinol y polau ar draws Prydain, sydd wedi awgrymu bod y momentwm yn symud tuag at gyfeiriad yr ymgyrch ‘Gadael’ dros yr wythnosau diwethaf,” meddai.

“Ond fe ddylen ni fod yn ofalus cyn dod i’r casgliad bod Cymru yn debygol o bleidleisio yn erbyn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd pan ddaw’r refferendwm.”