Mae ymosodiad o’r awyr wedi dinistrio ysbyty dros dro a gafodd ei sefydlu gan elusen feddygol yng ngogledd Syria, gan ladd ac anafu nifer o bobl, yn ôl swyddogion yno.

Dywedodd Mirella Hodeib o’r elusen Doctors Without Borders, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Medecins Sans Frontieres (MSF), bod yr ymosodiad o’r awyr wedi dinistrio’r adeilad dros dro yn nhref Maaret al-Numan yn nhalaith Idlib.

Nid oedd yn gallu cadarnhau faint oedd wedi’u hanafu yn yr ymosodiad.

Staff meddygol

Yn ôl Arsyllfa Hawliau Dynol Syria (SOHR) roedd awyrennau milwrol Rwsia wedi targedu’r ysbyty, gan ei ddinistrio a lladd naw o bobl.  Dywedodd hefyd bod dwsinau wedi cael eu hanafu.

Credir  bod yr holl staff meddygol yn yr adeilad wedi cael eu lladd, yn ôl un o’r gwrthryfelwyr yn yr ardal, Yahya al-Sobeih.

Dywedodd swyddogion dyngarol bod o leiaf un claf wedi marw a bod naw aelod o staff o Syria ar goll.

Twrci

Mae SOHR hefyd yn honni bod taflegryn wedi cael ei danio at ysbyty plant yn nhref Azaz yng ngogledd y wlad, ger y ffin a Thwrci, gan ladd o leiaf 10 o bobl ac anafu dwsinau.

Yn y cyfamser mae swyddogion yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel yn galw ar Dwrci i atal gweithredu milwrol yn Syria ar ôl i luoedd Twrci fomio safleoedd lluoedd Cwrdaidd dros y penwythnos.