Mae bachgen 17 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ger Caerffili bellach wedi ei ryddhau, ac ni fydd gweithredu pellach.

Cafodd y bachgen o bentref Pengam yng Nghwm Rhymni ei arestio wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau i wrthdrawiad car a ddigwyddodd yn Nhiryberth, Hengoed ddydd Sul, Ionawr 3.

Bu farw Conor Tiley, 18 oed, a Connor Williams, 17 oed, y ddau o Aberbargod yn dilyn y gwrthdrawiad. Roedd y ddau yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.