Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande
Bydd David Cameron yn ymweld â Pharis nos Lun ar gyfer trafodaethau gydag Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande cyn uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd (UE) ddydd Iau.
Bydd sicrhau cefnogaeth Ffrainc i becyn o ddiwygiadau i’r UE yn hanfodol os bydd cytundeb yn bosibl ym Mrwsel ddiwedd yr wythnos allai arwain y ffordd am refferendwm ar aelodaeth y DU o’r undeb cyn yr haf.
Ond mae’n rhaid i’r Prif Weinidog sicrhau cefnogaeth Francois Hollande ar gynigion i warchod gwledydd sydd ddim yn rhan o barth yr ewro, sydd wedi achosi pryder ym Mharis.
Mae David Cameron yn mynnu sicrwydd cyfreithiol na fydd gwledydd sydd ddim yn defnyddio’r Ewro yn cael cam wrth i barth yr ewro integreiddio ymhellach.
Ond mae Ffrainc wedi datgan yn glir y bydd yn gwrthod unrhyw gytundeb allai ymddangos fel eu bod yn rhoi triniaeth arbennig i gwmnïau ariannol Dinas Llundain.
Mae’r ymweliad i Baris yn dod ddiwrnod cyn i David Cameron siarad ag Aelodau Seneddol Ewropeaidd blaenllaw ym Mrwsel ddydd Mawrth, ac yn dilyn ei daith i Hambwrg ddydd Gwener ddiwethaf ar gyfer trafodaethau gyda Changhellor yr Almaen Angela Merkel.